Cafodd Tyssul Evans ei eni mewn fferm rhwng Pont-iets a Mynyddygarreg
yng Nghwm Gwendraeth ar ddiwedd y 1940au.
Clywch e'n sôn am y cysylltiad hanesyddol
rhwng y ffermwyr a'r glowyr yn yr ardal:
"Ond odd y gymdeithas yn gryf gryf. Ar yr adeg hynny,
dou ddiwydiant odd i gâl: y diwydiant amaethyddol
a'r diwydiant glo. A wedyn odd, fi'n cofio'n iawn, rownd
yn ardal ni, yn Pontnewydd, odd pob tŷ -
glowyr odd 'na. A o'n nhw'n dod getre yn y nos, o'n nhw
mor ddu â'r
frân, wi'n cofio'n iawn. A o'n nhw'n gorfod golchi
wedyn - sai'n credu o'n nhw'n gallu golchi yn y gwaith
prynny. O'n nhw'n gorfod golchi yn y sincen o flaen y tân
neu yn yr haf tu fâs i'r tŷ,
wi'n cofio'n iawn, glowyr yn golchi tu fas y tŷ.
"Ond yn rhyfedd iawn, odd 'na berthynas agos iawn
rhwng y ffermwyr a'r glowyr yr adeg hynny achos pan fydde
ishe help ar y ffarm, yn enwedig amser cynhaea, bydde'r
glowyr yn dod syth o'u gwaith, molchad a wedyn mas i'r
cae llafur neu cae gwair neu ta beth bynnag odd e, a bydde'r
ffermwyr yn ddibynnol iawn ar y cymorth fydden nhw'n gâl.
Ond yr ochor arall wedyn, bydde'r glowyr ddim yn cael 'u
talu dim am 'na. Ond fydden nhw'n cael 'u talu mewn ffordd
arall, fydden nhw'n cael darn o dir i blannu tato neu beth
bynnag o'n nhw am."
Dyma Tyssul
Evans yn sôn am y Saeson cyntaf a ddaeth i'r ardal yn
1964:
"Yn nechrau'r chwech degau fe
ddechreuodd y mewnlifiad Seisnig. Chwech deg pedwar daeth
y Saeson cyntaf i'n hardal ni. Symudodd teulu y Bowens
o Caegwyllt mas i Bontiets fan hyn. Fe werthwyd y ffarm;
roedd y ffarm yn eiddo i Stâd Colby, Caerfyrddin.
John Francis oedd yr agents bryd hynny a fe werthwyd
Caegwyllt. A dâth teulu y Smiths lawr o Gloucester
yn Hydref 1964. A fe wnaeth hwnna argraff rhyfedd iawn
arna i a lot fawr o'r cymdogion, pan och chi'n gorfod newid
iaith i gyfathrebu gyda'ch cymdogion."
Ceir ochr arall i hanes y mewnlifiad i gefn gwlad
yn fersiwn Saesneg y wefan hon gan Nick
Somerfield a Linda Corbett. |