Voices of Agriculture | Lleisiau Amaethyddiaeth Tea in the Barn | Te yn y beudy
imagemap
amdanom ni newyddion rhai lleisiau a lluniau prif themâu manylion cysylltu dolenni english

Rhai o'r lleisiau a'r lluniau > Sharon Richards

Sharon Richards

Mae Sharon Richards a'i gŵr yn ffermio yn fferm Allt-y-Fyrddin, Abergwili, ger Caerfyrddin. Fe enillodd hithau deitl Ffermwraig y Flwyddyn (2004) a drefnwyd gan NFU Cymru / Nat West.

Roedd Sharon wedi cael swydd gyda chwmni cyfrifwyr yn Hen Dŷ Gwyn ar Dâf ar ôl gadael coleg Pibwrlwyd ar ddiwedd y 1970au. Dyma rhai o'i hatgofion :

   Cliciwch ar y botwm dechrau i glywed y recordiad

"'Ngwaith, ma hwnna wedi newid tipyn yn y deg mlynedd bues i 'na. Delio y rhan fwyaf o'r amser gyda ffermwyr. Yr hen ffermwyr yn dod mewn :

'Co chi, y bocs. Co'r Bank Statement heb 'i agor.' Os odd e'n gweud Inland Revenue arno odd e heb 'i agor.

'Stock – details stock i chi' – back sigaret pacyn. Y rhan fwyaf, y peil invoices, odd dim ishe neud y VAT na dim byd arno nhw.

Ond y drueni odd ar diwedd eu dydd nhw wedi 'ny odd y wraig yn dod mewn, ddim yn gwbod hyd yn oed shwd i seino siec. Y Electric Bill, beth y'f fi fod i neud ag e. Dod mewn â cheque book ac erioed wedi cael y siawns gyda'i gŵr i neud y pethe 'na a ddim yn gwbod beth odd.

A 'na rhywbeth fi wedi gweld yn y cymuned wedi newid achos y ffordd odd, odd y wraig yn ishte'n dawel tu ôl yn mynd mlân â'r gwaith a'r gŵr yn rhedeg y busnes ar y ffarm, dim y wraig. Y pethe 'na wedi newid. Wrth gwrs nawr ma popeth ar compiwters, ma popeth gorfod..."

Maent hwy wedi arall-gyfeirio ac wedi agor Canolfan Dreftadaeth ar eu fferm. Sonia am yr angen i ffermwyr farchnata eu cynnyrch ac hefyd i fod yn fwy agored i'r cyhoedd :

   Cliciwch ar y botwm dechrau i glywed y recordiad

"Mae'n rhaid i ni fel ffermwyr i meddwl mwy – ar ôl cynhyrchu ma ishe ni i symud mlân. Beth y'n ni'n neud ag e. Dim point meddwl : 'O ni'n ôl reit, eiff rhywun off ag e'. Mae rhaid i ni feddwl ml ân a mae rhaid i ni i ddysgu'r cyhoedd am beth y'n ni'n neud a'r ffordd y'n ni'n cynhyrchu a dangos, edrych mwy positive ar bethe, ateb eu cwestiyne nhw a dim cuddio pethe. Dim bo ni yn cuddio – falle bo ni rhy agored o weld beth sy'n mynd mlân yn rhai ffermydd eraill Ewrop. Ond ma rhaid i ni weithio'n agosach gyda'r cyhoedd a croesawi nhw i'n ffermydd. Dangos i nhw beth sy'n mynd mlân. Ma 'na lot o'r cyhoedd ddim yn gwbod a ddim yn deall a ni'n colli wedi 'ny farchnad fory."

Sonia hefyd am bwysigrwydd yr amgylchedd :

   Cliciwch ar y botwm dechrau i glywed y recordiad

"Benthyg y tir i ni am y genhedlaeth i ddod a gofalu am y tir gore gallwn ni, ar ôl ein amser ni bydd rhywun arall i dod. Ni 'di cal y tir gan ein cyndadau yn picil lle dda – mae yn hyfryd iawn i bawb...

"A y'n ni'n sylweddoli, yn enwedig yng Nghymru, ma rhaid i ni gâl y cloddie a'r adar a'r anifeiliaid gwyllt achos ma twristiaeth yn rhan mor bwysig i gadw cefn gwlad yn ein gwlad fach ni."

Cewch fwy o wybodaeth am fenter Sharon ar eu gwefan: www.merlinshill.com

< Yn ôl i dudalen "Rhai o'r lleisiau a'r lluniau"
© 2004 Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin Dylunio gan Intexta