Voices of Agriculture | Lleisiau Amaethyddiaeth Tea in the Barn | Te yn y beudy
imagemap
amdanom ni newyddion rhai lleisiau a lluniau prif themâu manylion cysylltu dolenni english

Prif themâu

  • Cefndir personol y siaradwr: rhieni, teulu, y cysylltiad gyda ffermio.

  • Ffermio a'r gymdeithas wledig wrth bod y siaradwr yn tyfu e.e. disgrifiad o'r fferm - lleoliad, adeiladau, trydan, dŵr; dulliau o ffermio; iechyd anifeiliaid, meddyginiaethau a milfeddygon; undebau ffermwyr; cylchgronau ffermwyr.

  • Bywyd Cymdeithasol tra'n tyfu i fyny e.e. Clybiau Ffermwyr Ifanc, capeli, sioeau amaethyddol, marchnadoedd, hela, potsian.

  • Addysg & rhesymau am fynd i fewn i'r maes amaethyddol.

  • Disgrifiad diwrnod o waith a blwyddyn o waith ar y fferm.

  • Os oedd y siaradwr wedi symud neu newid fferm wrth briodi / nes ymlaen - disgrifiad o'r fferm yn arwain at:

  • Newidiadau mewn amaethyddiaeth dros y blynyddoedd. Y rhesymau am newid a'r agwedd tuag at y newidiadau (ar y pryd ac wrth edrych yn ôl) e.e. peiriannau, chwistrellu, gwrtaith, gwerthu anifeiliaid, bwyd anifeiliaid - disgrifiad ohono a ble prynwyd.

  • Cysylltiad gyda'r Weinyddiaeth Amaeth.

  • Cymorthdaliadau a grantiau ar hyd y blynyddoedd: disgrifiad ac effaith.

  • Effaith gwahanol polisïau llywodraethol e.e. mynediad i'r Gymuned Ewropeaidd, cwotâu llaeth, datgymalu'r Bwrdd Marchnata Llaeth.

  • Rôl y ffermwr mewn gwarchod yr amgylchedd; Clefyd y Gwartheg Gwallgo, Clwy'r Traed a'r Genau.

  • Arallgyfeirio - eu barn a'u profiad.

  • Cael gwybodaeth ynglŷn â newidiadau: o ble, pa sylw?

  • Y presennol / dyfodol: Trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall; Cydweithredu a marchnata; marchnadoedd; defnydd o'r dechnoleg fodern ar y fferm; newidiadau yn y gymdeithas wledig.
© 2004 Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin Dylunio gan Intexta