Voices of Agriculture | Lleisiau Amaethyddiaeth Tea in the Barn | Te yn y beudy
imagemap
amdanom ni newyddion rhai lleisiau a lluniau prif themâu manylion cysylltu dolenni english

Rhai o'r lleisiau a'r lluniau > Elfryn Daniels

Elfryn Daniels a'i wraig

Un o'r newidiadau mwyaf amlwg yw'r cynydd mawr sydd wedi bod yn nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw, fel y mae Elfryn Daniels o Felingwm Isaf yn sôn:

"Ar y start, lle bach i ddeg buwch, dwy drisiad [buwch ifanc] a phedwar ceffyl; pan gwplon ni'r godrodd gyda ni rhyw gant a hanner o wartheg o bob math. A wedyn gallwch chi weld eich hunan, os odd pawb yn 'neud 'na, odd e'n arwain at sefyllfa lle odd gor-gynhyrchu yn cymeryd lle."

Er bod ganddynt cymaint o dda, roedd ef a'i wraig yn eu nabod nhw i gyd :

"Nelo ni sêl o'r gwartheg godro yn 1995. Odd e'n benderfyniad anodd iawn i 'neud achos odd 'da ni shwt feddwl o'r da; welon ni ihe'r da, eu cwmni nhw, pob un â'u enw."

Gwartheg fferm y Gilfach, Llanwrda
Gwartheg fferm y Gilfach, Llanwrda.
Llun trwy garedigrwydd Tegwen Williams, Llandeilo
< Yn ôl i dudalen "Rhai o'r lleisiau a'r lluniau"
© 2004 Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin Dylunio gan Intexta